Gwobrau GO Cymru 25/26
Gwobrau GO Cymru 2025/26 yw’r prif ddigwyddiad sy’n dathlu rhagoriaeth ym maes caffael cyhoeddus ar draws Cymru. Mae’r seremoni wobrwyo o fri yn cydnabod cyflawniadau a llwyddiannau unigolion a sefydliadau sy’n ymwneud â chaffael a darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Manteision Cymryd Rhan
Dathlu Rhagoriaeth:
Gwobrau GO Cymru yw’r digwyddiad gwobrwyo y mae’r bri mwyaf yn perthyn iddo ym maes caffael cyhoeddus yng Nghymru, ac mae’n cydnabod cyflawniadau rhagorol gweithwyr proffesiynol a sefydliadau ym maes caffael. P’un a fyddwch yn fuddugol neu wedi cyrraedd y rownd derfynol, bydd y Gwobrau yn golygu y byddwch yn un o arweinwyr y diwydiant caffael.
Rhwydweithio ag Arweinwyr:
Mae llawer o’r bobl fwyaf blaenllaw ym maes caffael o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn mynychu’r digwyddiad. Mae’n gyfle unigryw i gysylltu ag arweinwyr y diwydiant, rhannu arfer gorau, a meithrin cydberthnasau gwerthfawr.
Cael Cydnabyddiaeth:
Mae bod yn rhan o Wobrau GO Cymru nid yn unig yn tynnu sylw at eich cyflawniadau ond hefyd yn gwella eich enw da yn y gymuned gaffael. Gall y gydnabyddiaeth a gewch o’r digwyddiad hwn esgor ar gyfleoedd newydd ac ar gynigion newydd i gydweithio.
Dysgu a Thyfu:
Nid dathlu llwyddiant yw unig ddiben y seremoni wobrwyo; mae’n ymwneud hefyd â dysgu oddi wrth y goreuon. Gall y sawl sy’n mynychu’r seremoni ddod i ddeall arferion a strategaethau caffael arloesol sydd wedi arwain at lwyddiant yn y sector cyhoeddus.
Ymuno yn y Dathlu:
Mae Gwobrau GO Cymru yn gyfle i ddathlu gwaith caled ac ymroddiad gweithwyr proffesiynol ym maes caffael sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Mae’n gyfle i gydnabod a gwerthfawrogi effaith caffael effeithiol ar y gymuned.