Cysylltu prynwyr a chyflenwyr â’i gilydd ar draws sector cyhoeddus Cymru

Mae Procurex Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sydd wedi ymrwymo i helpu gweithwyr caffael proffesiynol i sicrhau canlyniadau gwell i’w sefydliadau, ar yr un pryd â chael effaith gadarnhaol ar bobl a chymunedau ledled Cymru.

Bydd digwyddiad 2024 yn cael ei gyflwyno ar y cyd â Llywodraeth Cymru ac yn cael ei gynnal yn y ganolfan gynadledda ac arddangos fwyaf newydd yng Nghymru, a bydd yn tynnu sylw at gyfleoedd i fusnesau sydd eisoes yn gweithio gyda’r sector cyhoeddus, a’r rheini sy’n bwriadu torri i sectorau neu feysydd gwasanaeth newydd.

Bydd siaradwyr arbenigol yn darparu cyfres o gyflwyniadau a gweithdai rhyngweithiol sy’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau, gan gynnwys sbarduno arbedion effeithlonrwydd drwy ddefnyddio technolegau newydd a deallusrwydd artiffisial, a chyflawni caffaeliadau a chontractau sy’n sicrhau canlyniadau gwell o ran llesiant.

Mae rhaglen y gynhadledd yn cael ei chynnal ochr yn ochr ag arddangosfa, sy’n cynnwys cyflenwyr a darparwyr gwasanaethau blaenllaw o amrywiaeth o sectorau, ac sydd â hanes o ddarparu gwerth i sefydliadau’r sector cyhoeddus.

Ym mis Chwefror 2025, bydd y newidiadau a nodir yn Neddf Caffael 2023 yn dod i rym. Ewch i Procurex Cymru 2024 i gael gwybod beth yn union mae hyn yn ei olygu i chi fel gweithiwr caffael proffesiynol, neu fel sefydliad sy’n awyddus i wella’r ffordd rydych chi’n gwerthu cynnyrch a gwasanaethau i sefydliadau yn y sector cyhoeddus.

2024 Siaradwyr

2024 Partneriaid y Digwyddiad

Previous Next

Geirda