Sgiliau a Phobl

Yn y dirwedd fusnes sy’n datblygu’n gyflym heddiw, mae maes caffael wrthi’n cael ei weddnewid yn sylweddol yn sgil deddfwriaeth newydd, datblygiadau mewn technoleg, newidiadau mewn fframweithiau rheoleiddio, a mwy o bwyslais ar gynaliadwyedd ac arferion moesegol. Wrth i’r amgylchedd caffael ddod yn fwy cymhleth a deinamig, mae’n hanfodol bod gweithwyr proffesiynol yn arfogi eu hunain â’r sgiliau angenrheidiol i lywio’r newidiadau hyn yn effeithiol.

Drwy gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y tueddiadau a’r arloesi diweddaraf ym maes caffael, mae hyn yn galluogi gweithwyr proffesiynol i fabwysiadu arferion gorau sy’n gwella eu galluoedd strategol, gan gynnwys arferion caffael cynaliadwy a moesegol, sy’n cyd-fynd â safonau a disgwyliadau modern.

Bydd y Sgiliau a Phobl yn Procurex Cymru yn rhoi cyfle i’r rhai sy’n bresennol glywed gan ffigurau allweddol drwy amrywiaeth o sesiynau addysgol a rhyngweithiol amserol sydd wedi’u llunio’n benodol i wella eich gwybodaeth a’ch gallu i gyfrannu at gyflawni’r uchelgeisiau hyn.

Sgiliau a Phobl

Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae