Arddangosfa Cynnyrch

Trosolwg
Croeso i’r Arddangosfa Gynnyrch yn Procurex Cymru 2025, sef digwyddiad mwyaf blaenllaw Cymru ym maes caffael cyhoeddus. Bwriad yr arddangosfa hon yw dod â phrynwyr a chyflenwyr o bob rhan o’r gymuned caffael cyhoeddus yng Nghymru ynghyd, a chynnig llwyfan unigryw i archwilio cynnyrch a gwasanaethau arloesol a all ddiwallu anghenion o ran caffael yn awr ac yn y dyfodol.

I Brynwyr
Mae’r Arddangosfa Gynnyrch yn cynnig cyfle amhrisiadwy i brynwyr o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru ymgysylltu â chyflenwyr blaenllaw. Dewch i ddarganfod ystod amrywiol o gynnyrch a gwasanaethau arloesol a all wella eich strategaethau caffael a’ch helpu i gyflawni nodau eich sefydliad. Dewch i feithrin partneriaethau newydd sbon a chryfhau partneriaethau presennol â chyflenwyr sydd wrthi’n cyfrannu i’r farchnad caffael cyhoeddus yng Nghymru, sy’n werth £8.32 biliwn.

I Gyflenwyr
I gyflenwyr yn y sector preifat, mae’r Arddangosfa Gynnyrch yn cynnig llwyfan unigryw i gysylltu â thros 1000 o bobl allweddol sy’n gwneud penderfyniadau, o bob rhan o’r gymuned caffael cyhoeddus yng Nghymru. Dyma eich cyfle i gyflwyno eich cynnyrch a’ch gwasanaethau gerbron y sawl sy’n gyfrifol am wario dros £8.32 biliwn bob blwyddyn. Dewch i arddangos eich datblygiadau arloesol a dangos sut y gall eich atebion chi fodloni gofynion caffael y sector cyhoeddus.

I gael rhagor o fanylion am y pecynnau noddi ac arddangos dethol, anfonwch ebost i exhibitions@procurexwales.co.uk neu ffoniwch 0141 739 5383