Arloesi yn y Gadwyn Gyflenwi
Mae ymgysylltu cynnar rhwng prynwyr a chyflenwyr yn golygu bod modd darparu gwasanaethau caffael yn effeithlon ac yn effeithiol.
Bydd y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus yn cael effaith sylweddol ar y broses gaffael, a gall ymgysylltu cynnar helpu i baratoi ar gyfer y gofynion newydd, lleihau rhwystrau a galluogi mwy o gyfranogiad gan fusnesau bach a chanolig.
Bydd arloesi yn y gadwyn gyflenwi’n allweddol i gyflawni uchelgeisiau caffael Llywodraeth Cymru hefyd.
Bydd y Parth Arloesi yn y Gadwyn Gyflenwi’n rhoi cyfle i’r rhai sy’n bresennol glywed gan benderfynwyr caffael allweddol Cymru am sut gall prynwyr a chyflenwyr ymgysylltu’n effeithiol â’i gilydd, datblygu prosesau arloesol a chyson, a galluogi mwy o sefydliadau i gyfrannu at y broses gaffael.
Arloesi yn y Gadwyn Gyflenwi
Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae
Lesley Williams
Prif Swyddog Gweithredol
Kamal Rajput
Arweinydd Datblygu Busnes Strategol
Mae Kamal wedi bod gyda Tata Steel ers dros 18 mlynedd ar ôl gweithio mewn rolau masnachol amrywiol ym maes Gwerthu, Marchnata a Datblygu Busnes. Mae wedi bod yn ymwneud â phrosiectau ynni ac adeiladu mawr ledled Ewrop, ac mae bellach yn gyfrifol am ddatblygu cysylltiadau strategol ar draws y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae Kamal yn treulio cryn dipyn o amser yn ymgysylltu â defnyddwyr terfynol i’w helpu i ddeall y gadwyn gyflenwi dur er mwyn sicrhau bod penderfyniadau caffael yn cael eu gwneud yn seiliedig ar yr holl ffeithiau. Mae hyn hefyd yn cynnwys ymgysylltu ag adrannau’r llywodraeth ledled Cymru a Lloegr i dynnu sylw at gyfleoedd a heriau i ddur mewn prosiectau seilwaith ac adeiladu.
Mae Kamal hefyd yn datblygu strategaethau ar gyfer busnesau’r DU i fanteisio ar farchnadoedd a sectorau newydd yn seiliedig ar gyfluniadau asedau, nawr ac yn y dyfodol. Mae Kamal yn frwd dros sbarduno newid yn y sector adeiladu ac ynni adnewyddadwy i gefnogi gweithgynhyrchu yn y DU, a chanolbwyntio ymdrechion ar adeiladu cadwyni cyflenwi lleol.
Kamal yw cadeirydd pwyllgor caffael UK Steel sy’n cynnwys y cwmnïau dur mwyaf yn y DU, gan weithredu fel llais cyfunol ar bolisi caffael a materion eraill i Lywodraethau’r DU, Cymru a’r Alban.
Tim Lawrence
Cyfarwyddwr Cadwyn Gyflenwi Ddigidol
Mae Tim yn Gyfarwyddwr Cadwyn Gyflenwi Ddigidol yn Digital Catapult gan arwain rhaglen gwerth £30m i adeiladu Canolfan Gadwyn Gyflenwi Ddigidol i gyflymu arloesedd digidol mewn Cadwyni Cyflenwi.
Mae gan Tim brofiad helaeth o wella cadwyni cyflenwi byd-eang gan weithio yn y sectorau Modurol, Nwyddau Defnyddwyr, Awyrofod, Amddiffyn, Adeiladu, Gwyddor Bywyd a Diwydiannol. Mae ei brofiad yn cynnwys 25 mlynedd mewn ymgynghoriaeth, gan arwain cwmnïau i drawsnewid cadwyni cyflenwi o strategaeth i wella perfformiad a digidol.
Yn arweinydd meddwl ysbrydoledig, mae Tim yn datblygu mewnwelediadau blaenllaw i reoli cadwyn gyflenwi fyd-eang a digidol, ac yn siarad ar y pynciau hyn ar lwyfannau cynadledda ledled Ewrop.
Tony Chatfield
Pennaeth y Gadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth
Tony Chatfield yw Pennaeth Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth GIG Cymru, ac mae’n gweithredu tîm o 400 o staff, gan ddarparu gwasanaethau Cadwyn Gyflenwi a Chymorth Logisteg Feddygol i GIG Cymru.
Mae’r gwasanaethau’n cynnwys y Gadwyn Gyflenwi, Patholeg Glinigol, Logisteg Feddygol, yn ogystal â chymorth i swyddogaethau eraill GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys strategaeth fflyd i’r rheini nad ydynt yn gleifion, cynllunio trafnidiaeth a darparu gwasanaethau logisteg arbenigol (Risg Uchel) ar gyfer GIG Cymru.
Rhyddhau Manteision Deunyddiau Traul Meddygol sy’n Gysylltiedig â Rheoli Clwyfau mewn Lleoliadau Gofal Iechyd
Catherine Proudlove
Arweinydd Busnesau Bach a Chanolig, Masnachol Amddiffyn
y Weinyddiaeth Amddiffyn
Catherine Proudlove
Arweinydd Busnesau Bach a Chanolig, Masnachol Amddiffyn
Elgan Richards
Ymgynghorydd Tendro
David Stewart
Ymgynghorydd Gwybodaeth Busnes
Tristian Jones
Cydlynydd Rheoli Rhaglenni