Pam dod i’r digwyddiad

Y Sector Cyhoeddus

Bwriad Procurex Cymru, y gall y sector cyhoeddus ei fynychu’n rhad ac am ddim, yw ysbrydoli syniadau newydd, sbarduno cydweithio, ac arddangos arloesedd ar draws y gymuned caffael cyhoeddus.

Mae’r digwyddiad, sy’n dod â gweithwyr caffael proffesiynol o bob cwr o Gymru a thu hwnt at ei gilydd yn cynnig cyfle penodol, uchel ei werth, i gyfnewid syniadau, edrych ar wahanol atebion, a meithrin y cysylltiadau sy’n helpu i fodloni blaenoriaethau heddiw a heriau’r dyfodol.

P’un a ydych chi’n chwilio am wybodaeth ymarferol, cysylltiadau newydd, neu ddealltwriaeth ddyfnach o’r dirwedd caffael sy’n esblygu, mae Procurex Cymru yn gyfle prin i gamu i ffwrdd oddi wrth alwadau dydd i ddydd a chanolbwyntio ar y darlun mwy – i gyd mewn un diwrnod dylanwadol iawn.

Y Sector Preifat

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda sefydliadau o bob maint — a gyda busnesau bach a chanolig sy’n sbarduno cymaint o dwf economaidd Cymru. Ni fu erioed amser gwell i edrych ar y cyfleoedd y gall partneriaethau sector cyhoeddus eu datgloi. Mae llawer o gyflenwyr sydd eisoes yn gweithio gyda’r llywodraeth wedi profi manteision go iawn, o gynnydd mewn trosiant ac elw cryfach i dyfu eu timau ac ehangu eu cyrhaeddiad.

Procurex Cymru yw’r lle i gyflwyno eich syniadau, eich datblygiadau arloesol a’ch galluoedd ger bron y bobl bwysicaf. P’un a ydych chi’n ddeiliad fframwaith neu’n ymuno â marchnad y sector cyhoeddus o’r newydd, dyma eich cyfle chi i ddangos sut gall eich cynnyrch a’ch gwasanaethau helpu i ddiwallu anghenion sy’n esblygu yn sector cyhoeddus Cymru.

Procurex Cymru yw digwyddiad caffael cyhoeddus y flwyddyn — sy’n cynnig cyfleoedd heb eu hail nid yn unig i greu cysylltiadau, ond i sefyll allan hefyd. Tarwch olwg ar y pecynnau noddi ac arddangos sydd wedi’u teilwra i roi cymaint o amlygrwydd â phosibl, a rhoi lle i’ch sefydliad wrth galon y farchnad amrywiol, uchel ei gwerth hon.