Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae
Nicola Jones
Sustainability & Circularity Lead

Nicola Jones has 26 years experience in the steel industry and she is now the Sustainability & Circularity Lead at Tata Steel UK. Nicola has been heavily involved in the Packaging Sector throughout her career, advising on government policy and recycling initiatives. Nicola is now supporting Tata Steel UK on its transformation journey to lower CO2 emissions in steel making via Electric Arc Furnaces.
Charlene Maginnis
Pennaeth Gweithredu Polisïau ar gyfer Cadwyni Cyflenwi a Chynnig Gwasanaethau

Charlene yw Pennaeth Gweithredu Polisïau ar gyfer Cadwyni Cyflenwi a Chynnig Gwasanaethau yng Ngwasanaeth Masnachol y Goron, y sefydliad prynu cyhoeddus mwyaf yn y DU. Symudodd Charlene i faes polisi masnachol ar ôl 12 mlynedd mewn swyddi masnachol yn y sector cyhoeddus, ac mae bellach yn helpu prynwyr a chyflenwyr fframweithiau i weithredu amrywiaeth o bolisïau o gynaliadwyedd amgylcheddol i amrywiaeth cyflenwyr.
Gweithiodd yn Swyddfa’r Cabinet a’r Adran dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i gyflawni'r caffael peilot ar gyfer cyflawni gwerth cymdeithasol o fewn CCS, a helpu i ddatblygu PPN 06/20 ar Werth Cymdeithasol i’r Llywodraeth Ganolog
Jeremy Wimble
Rheolwr Rhaglen Amddiffyn

Mae Jeremy yn rheoli rhaglen amddiffyn techUK, gan helpu sector technoleg amddiffyn y DU i gyd-fynd â'r Weinyddiaeth Amddiffyn – gan gynnwys Defence Digital, DE&S, unedau arloesi a gorchmynion rheng flaen - drwy ystod eang o weithgareddau gan gynnwys ymgynghori ar bolisi, sesiynau briffio preifat a rhwydweithio ymgysylltu cynnar â'r farchnad. Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi'r Weinyddiaeth Amddiffyn wrth iddo gaffael technolegau digidol newydd. Cyn ymuno â techUK, o 2016 i 2024 roedd Jeremy yn Rheolwr Rhaglenni Diogelwch Rhyngwladol yn y Royal United Services Institute (RUSI) yn cydlynu gweithgareddau ymchwil ac effaith ar gyfer cyllidwyr, gan gynnwys y FCDO ac Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau, yn ogystal â datblygu busnes a strategaeth.
Dr. Darar Apiri
Uwch Arbenigwr Caffael Cynaliadwy

Mae Dr. Darar Apiri yn Uwch Arbenigwr yn WRAP, gan ddarparu arbenigedd technegol mewn caffael cynaliadwy ar y Prosiect Sector Cyhoeddus Cylchol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â phrosiectau WRAP ar draws y DU yn ehangach a rhanbarthau APAC. Mae'n cefnogi sefydliadau i integreiddio cynlluniau datgarboneiddio, cylcholdeb a gwerth cymdeithasol i strategaethau caffael a phrosesau tendro, gan helpu i gyflawni canlyniadau carbon isel sy'n effeithlon o ran adnoddau ac ymgorffori egwyddorion yr economi gylchol i brosesau gwneud penderfyniadau.
Mae gan Darar PhD mewn Logisteg a Rheoli Cadwyni Cyflenwi, MSc mewn Rheoli Busnes Peirianneg, a BEng mewn Peirianneg Sifil. Mae'n Aelod Siartredig o'r Sefydliad Logisteg a Thrafnidiaeth Siartredig (CMILT), yn aelod o Gymdeithas y Rheolwyr Prosiectau (MAPM), ac yn Uwch Gymrawd yr Academi Addysg Uwch (SFHEA). Cyn ymuno â’r byd academaidd, gweithiodd Darar yn rhyngwladol fel arweinydd caffael ym maes gweithrediadau meysydd glanio, gan fagu profiad ymarferol mewn amgylcheddau cadwyni cyflenwi a chaffael cymhleth o risg uchel. Ar ôl hynny, cafodd swyddi academaidd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr a Phrifysgol De Cymru, yn dysgu ac yn arwain ymchwil ar gadwyni cyflenwi cynaliadwy, economi gylchol, caffael byd-eang, a rheoli prosiectau.
Ian Evans
Rheolwr Caffael a Gwybodaeth

Simon Brindle
Cyfarwyddwr Caffael a Masnachol

Dot Davies
Cyflwynydd a Darlledwr

Mae Dot wedi gweithio ers blynyddoedd lawer i BBC Wales, ITV Wales, S4C, BT Sport, Radio 5 Live a Radio 4, ac ar hyn o bryd mae’n cyflwyno’r BBC Radio Wales Breakfast Show. Mae hi wedi cyflwyno Cwpan y Byd Rygbi ar ran ITV a’r Chwe Gwlad i’r BBC.
Yn siarad Cymraeg yn rhugl, dechreuodd gyrfa ddarlledu Dot yn y byd chwaraeon, ond cafodd ei phroffil cenedlaethol hwb sylweddol o’i presenoldeb amlwg yng nghystadleuaeth Wimbledon ar gyfer y BBC am nifer o flynyddoedd. Roedd ei chyflwyniadau blynyddol ochr yn ochr â John McEnroe ar ‘6love6’ yn uchafbwynt arbennig!
Ers hynny, mae hi wedi mentro i fyd materion cyfoes, gan gyflwyno ar Radio Wales, Radio Cymru a Radio 4, yn ogystal â rhaglen S4C, ‘Y Byd ar Bedwar’, a rhaglen ITV, Wales This Week.
Mae ei hyblygrwydd yn cael ei ddangos ymhellach drwy ei chyflwyniad o’r Eisteddfod Genedlaethol ar ran S4C yn 2022 o’i sir enedigol, Ceredigion – gyda llawer mwy o brosiectau cyffrous i’w datgelu dros y misoedd nesaf.
Yn ddiweddar, datgelodd Dot Davies ei diddordeb cynyddol mewn casinos ar-lein, gan rannu sut mae’r math hwn o adloniant wedi dod yn hoff ddifyrrwch personol iddi. Yn ôl Dot, mae’r amrywiaeth o gemau gamblo sydd ar gael mewn casinos ar-lein – y gallwch ddarllen mwy amdanynt yma: https://800gambling.org – nid yn unig yn cynnig cyffro, ond hefyd ffordd o ymlacio ar ôl diwrnod prysur. Esboniodd ei bod yn gallu ymgolli yn y gemau hyn fel modd o dawelu a dianc o straen dyddiol.
Un o’r rhesymau pam mae casinos ar-lein wedi dod yn boblogaidd – gan gynnwys gyda Dot – yw’r hwylustod maen nhw’n ei gynnig. Yn wahanol i gasinos traddodiadol, sydd angen teithio ac amserlennu, mae casinos ar-lein ar gael 24/7 ac yn gallu cael eu defnyddio o gysur y cartref. Pwysleisiodd Dot sut mae’r hyblygrwydd hwn yn cyd-fynd yn berffaith â’i ffordd o fyw, gan ei galluogi i fwynhau ei hoff gemau casino pryd bynnag y mae ganddi funud, boed hynny’n hwyr yn y nos neu yn ystod egwyl gyflym.
Fe’i magwyd Dot ar fferm yng ngorllewin Cymru, ac mae ei chariad tuag at yr awyr agored yn parhau wrth iddi fagu ei thri o blant.
Paul Griffiths
Pennaeth Cyflawni, Caffael a Masnachol

Jonathan Irvine
Cyfarwyddwr Caffael, Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth

Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes caffael y GIG ers dros 30 mlynedd gyda’r rhan fwyaf o fy ngyrfa wedi’i threulio yn sefydliadau caffael cenedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon. Yn y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi gweithio ar lefel uwch yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Nottingham ac mae fy rôl bresennol yn arwain Gwasanaethau Caffael o fewn GIG Cymru. Rwy'n gobeithio bod fy mhrofiad dros nifer o flynyddoedd o weithio mewn gwahanol amgylcheddau gwleidyddol a gweithredol yn y GIG wedi fy ngalluogi i ddatblygu ymdeimlad craff o'r hyn sy'n gweithio'n dda (a ddim mor dda). Edrychaf ymlaen at barhau â’r gwaith gyda’m cydweithwyr caffael ledled Cymru a thu hwnt i helpu i gwrdd â’r heriau presennol a niferus sy’n dod i’r amlwg lle gall ein proffesiwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n poblogaeth cleifion a’r gymdeithas ehangach.
Alice Horn
Cynghorydd Datblygu Cynaliadwy

Mae Alice Horn wedi bod yn gweithio yn Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ers chwe blynedd. Yn ei swydd fel Cynghorydd Datblygu Cynaliadwy, mae’n cynorthwyo cyrff cyhoeddus a phartneriaethau rhanbarthol i gael effaith ystyrlon, gan ddefnyddio sgiliau a ddatblygwyd ganddi fel un o Gyn-fyfyrwyr Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae hefyd yn gweithio ar y genhadaeth sy’n ymwneud ag economi lesiant, ac yn sicrhau bod Cymru yn symud tuag at economi sy’n rhoi blaenoriaeth i bobl a’r blaned. O fewn y rôl honno, mae meysydd blaenoriaeth Alice yn cynnwys strategaethau datblygu economaidd, Cyflog Byw Gwirioneddol a Deallusrwydd Artiffisial. Mae hefyd yn arwain gwaith y Comisiynydd ar bolisi caffael ac ar weithredu argymhellion yr Adolygiad Adran 20 cyntaf o arferion caffael.
Liz Lucas
Pennaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Digidol

Fe’i penodwyd yn Bennaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Digidol yn 2018. Cyn hyn, roedd yn Bennaeth Caffael yng Nghaerffili, a nawr mae Liz yn arwain tîm o 160 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn sy’n gyfrifol am ddarparu’r holl wasanaethau Profiad Cwsmeriaid, Trawsnewid Digidol, Caffael a Llywodraethu Gwybodaeth. Mae Liz yn Gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi ac mae ganddi ddiddordeb mewn adfywio cymdeithasol ac economaidd drwy ddefnydd effeithiol o gaffael.
Yr Athro Jany Lynch
Canolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus

Scott Parfitt
Uwch Darlithydd

Lewis Crump
Swyddog Cymorth Polisi Masnachol

Carl Thomas
Arweinydd Gweithredu a Llywodraethu

Carl has a wealth of public procurement experience, having previously led the award-winning procurement team at one of Wales’ largest housing associations.
Before joining Welsh Government, Carl worked for the Chartered Institute of Procurement and Supply (CIPS), where he taught procurement and contract management best practice to public and private sector organisations across the globe. Carl also played an important role in CIPS’ work post-Grenfell, and supported the work of Working Group 11 to agree specific procurement competence levels for people involved in the construction of new higher risk residential buildings.
In his current role, Carl is responsible for developing Welsh Government’s wider Procurement Reform engagement activity, working closely with stakeholders across the Welsh public sector to ensure that they are ready to maximise the opportunities arising from procurement reform.
Catherine Lund
Cyfarwyddwr Caffael

Dr Katharina Sarter
Athro Cynorthwyol

Mae Dr Eva Katharina Sarter yn Wyddonydd Gwleidyddol gydag arbenigedd sylweddol a diddordebau ymchwil ym maes polisi cyhoeddus, economi gwleidyddol, y Wladwriaeth Les, cyflogaeth, digideiddio, a gwyddor wleidyddol gymharol. Ymysg pynciau o ddiddordeb penodol mae llunio polisïau a’u gweithredu, marchnadeiddio ac economi gwleidyddol y wladwriaeth les, rheoleiddio’r farchnad lafur a llywodraethu gwasanaethau cyhoeddus. Mae'r ymchwil diweddaraf yn cynnwys ymchwilio i gaffael cyhoeddus cynaliadwy fel adnodd polisi rheoleiddio ac astudiaeth o ddigideiddio, yn enwedig mewn perthynas â'r wladwriaeth les a gwasanaethau cyhoeddus.
Paul Hall
Pennaeth Seiber ac Arloesi

Ditectif Arolygydd gyda Heddlu De Cymru, sydd wedi’i secondio ar hyn o bryd i Ganolfan Seiberwydnwch Cymru. Mae Canolfan Seiberwydnwch Cymru yn sefydliad a arweinir gan yr heddlu, sy’n ceisio cynorthwyo busnesau yng Nghymru i fynd i’r afael â’r bygythiad a achosir gan seiberdroseddu. Mae Paul wedi bod yn swyddog heddlu ers 26 o flynyddoedd, ac mae wedi ymrwymo i gynorthwyo busnesau drwy sicrhau eu bod yn gwybod beth yw lefelau cyfredol y bygythiad a achosir gan seiberdroseddu, a’u bod yn gwybod pa fesurau diogelwch y gallant eu rhoi ar waith i’w diogelu eu hunain rhag y bygythiad hwnnw.
Jarrad Morris
Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol

Jarrad Morris yw Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol FleetEV, busnes arobryn sy’n sbarduno'r newid i gerbydau trydan ar draws y sector cyhoeddus, busnesau ac unigolion. O dan ei arweinyddiaeth, mae FleetEV wedi sicrhau dwy wobr fawr i'r diwydiant am brosiectau caffael cydweithredol a ddarparwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ac mae wedi arbed dros £1.2 miliwn i'r sector cyhoeddus ar gostau caffael fflyd rhwng 2023 a 2025. Ochr yn ochr â FleetEV, mae Jarrad hefyd yn arwain PLUG Charging, cangen seilwaith y cwmni sy'n darparu atebion arloesol ar gyfer gwefru cerbydau trydan, i gefnogi'r gwaith o fabwysiadu dulliau teithio cynaliadwy yn ehangach. Mae Jarrad yn siarad Cymraeg iaith gyntaf ac yn eiriolwr brwd dros Gymru fwy gwyrdd. Mae ganddo wybodaeth heb ei hail am gerbydau trydan ac atebion ymarferol i helpu sefydliadau i ddatgarboneiddio eu fflydoedd. Mae hefyd yn credu'n gryf ym mhŵer caffael fel grym er lles, er mwyn sicrhau bod pob prosiect yn creu gwerth cymdeithasol ystyrlon ochr yn ochr â chael effaith amgylcheddol.
Stuart Milligan
Darlithydd Cyswllt

Mae Stuart Milligan yn Ddarlithydd Cyswllt yn Ysgol Fusnes ac Economeg Bob Gaglardi ym Mhrifysgol Thompson Rivers. Mae Stuart wedi dal swyddi uwch ym maes manwerthu ac addysg uwch. Mae ganddo Ddoethuriaeth mewn Rheoli Cadwynau Cyflenwi a Gradd Meistr mewn Gwyddor Data, ac mae ganddo ddiddordeb mewn cadwynau cyflenwi cyfrifol. Mae ei waith addysgu ac ymchwilio diweddar yn cynnwys ystyried sut y gall technoleg ychwanegu gwerth at y swyddogaeth gaffael.
Daniel Thomas
Cynghorydd Datgarboneiddio

Mae Daniel Elwyn Thomas yn Gynghorydd Datgarboneiddio ar gyfer Busnes Cymru, gwasanaeth cymorth busnes Llywodraeth Cymru a ariennir yn llawn ar gyfer busnesau bach a chanolig yng Nghymru.
Mae Cynghorwyr Datgarboneiddio yn cefnogi busnesau ledled Cymru i ddod yn fwy cynaliadwy a lleihau eu hallyriadau carbon. Mae'r gwasanaethau’n cynnwys nodi technolegau a chyfleoedd cyllido addas, cyfrifo ôl troed carbon, a datblygu Cynlluniau Lleihau Carbon wedi'u teilwra i helpu busnesau i baratoi ar gyfer tendrau, sicrhau grantiau, a chymryd camau ystyrlon tuag at Sero Net.
Adam Cox
Ymgynghorydd Arweiniol ar gyfer Gwerth Cymdeithasol

Adam Cox yw’r Ymgynghorydd Arweiniol ar gyfer Gwerth Cymdeithasol yn Cwmpas, asiantaeth ddatblygu gydweithredol fwyaf y DU. Mae'n arwain prosiectau cenedlaethol gyda Llywodraeth Cymru, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, a phartneriaid y sector preifat, gyda phwyslais penodol ar ymgorffori gwerth cymdeithasol drwy gaffael, drwy ddefnyddio deddfwriaeth berthnasol i siapio’r dysgu.
Mae Adam yn cael ei gydnabod am herio dulliau confensiynol o ran gwerth cymdeithasol ac am hyrwyddo arferion arloesol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i gyflawni effaith go iawn ar gymunedau a chadwyni cyflenwi.
Gordon Brown MCIOB CEnv
Y Panel Cynghori ar Gynaliadwyedd – Is-gadeirydd

https://www.linkedin.com/in/gordonjohnbrown/
Grahame Steed
Cyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus, Ymchwil a Chyfathrebu

Ymunodd Grahame â BiP Solutions yn 2003 fel Cyfarwyddwr Cynhyrchu gyda chyfrifoldeb am yr adran cyfryngau a chynhyrchu amlddisgyblaethol, gan gynnwys Cynnwys, Ymchwil a Dosbarthu. Cyn hynny, bu'n gweithio mewn amryw o uwch swyddi golygyddol a chyhoeddi i'r cwmni cyfryngau EMAP plc.
Penodwyd Grahame yn Ddirprwy Brif Swyddog Gweithredol Is-adran BI ym mis Mai 2012 a daeth yn Gyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata ym mis Mai 2016 gyda chyfrifoldeb cyffredinol am lywio refeniw drwy dimau gwerthu, marchnata a digwyddiadau yn y sector preifat a chyhoeddus.
Ym mis Ionawr 2017, penodwyd Grahame yn Rheolwr Gyfarwyddwr is-adran y Cyfryngau ac Atebion Marchnata o fewn Grŵp BiP. Yn y rôl hon, cymerodd gyfrifoldeb cyffredinol am ddau o gaffaeliadau diweddar Grŵp BiP – Pro Mark Media ac Ingenium – yn ogystal â phortffolio digwyddiadau a hyfforddiant BiP Solutions.
Ar ôl ailstrwythuro Grŵp BiP ym mis Ebrill 2018, penodwyd Grahame yn Gyfarwyddwr Gwerthiant a Marchnata ar gyfer unedau busnes Deallusrwydd Busnes a'r Sector Cyhoeddus, cyn cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Polisi Cyhoeddus, Ymchwil a Chyfathrebu yn 2023.
Aled Guy
Pennaeth Cynaliadwyedd a Rheoli Carbon Net Sero

Rhian Rogers
Arweinydd Capasiti a Galluogrwydd


Catherine Proudlove
Arweinydd Busnesau Bach a Chanolig, Masnachol Amddiffyn
y Weinyddiaeth Amddiffyn
Catherine Proudlove
Arweinydd Busnesau Bach a Chanolig, Masnachol Amddiffyn

Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Daeth Mark yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd ym mis Mai 2011. Roedd yn Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad o fis Gorffennaf 2011 – Mawrth 2013 a’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni Ewropeaidd Cymru Gyfan o fis Gorffennaf 2011 – Mawrth 2013. Penodwyd yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth 2013. Penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ym mis Mai 2016. Penodwyd Mark yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 3 Tachwedd 2017. Ar 12 Rhagfyr 2018 penodwyd Mark yn Prif Weinidog Cymru a daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 13 Chwefror 2019. Penodwyd Mark yn Brif Weinidog ar 13 Mai 2021.
Chris Williams
Pennaeth Gwasanaethau Masnachol

Oliver Patrick
Rheolwr, Rhaglenni ac Arloesi

Carla Lavender
Uwch-reolwr Uned Adolygu Caffael

Mae gan Carla Lavender dros 20 mlynedd o brofiad o gaffael yn y sector cyhoeddus, sy’n cynnwys wyth mlynedd yn arwain timau cydweithredol ar draws ystod o gategorïau. Yn y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, bu’n arwain uwch-weithwyr proffesiynol cyfreithiol wrth ddatblygu dau fframwaith cenedlaethol o bwys ar gyfer Gwasanaethau Cyfreithwyr a Bargyfreithwyr. Bu hefyd yn cyfarwyddo timau caffael mewn meysydd risg uchel, a hynny fel Pennaeth Bwyd dros dro ac yn ddiweddarach fel Pennaeth Fflyd a Gwasanaethau Proffesiynol dros dro.
Fel Uwch-reolwr Diwygio Caffael, bu Carla yn cynorthwyo i ddatblygu polisi caffael ac arweiniad deddfwriaethol, a hi oedd yr unig bwynt cyswllt ar gyfer Dysgu a Datblygu rhwng Swyddfa’r Cabinet a’r sector cyhoeddus yng Nghymru. I gyd-fynd â darpariaeth greiddiol Llywodraeth y DU o ran Dysgu a Datblygu ar gyfer Deddf Caffael 2023, datblygodd Carla hyfforddiant dwyieithog ychwanegol a oedd wedi’i deilwra i’r cyd-destun yng Nghymru. Llwyddodd yr hyfforddiant hwnnw hefyd i wella parodrwydd rhanddeiliaid ar gyfer Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 a Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024.
Yn ei swydd bresennol fel Uwch-reolwr yr Uned Adolygu Caffael, mae Carla yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o hybu cydymffurfiaeth â’r drefn gaffael newydd yng Nghymru. Mae’n arwain y gwaith o weithredu a mireinio prosesau sy’n monitro integriti ac
effeithlonrwydd gweithgareddau caffael, ac yn sicrhau bod awdurdodau contractio’n glynu wrth y gofynion rheoleiddiol. Mae Carla hefyd yn cydweithio’n agos â rhanddeiliaid i asesu arferion caffael, cymryd camau unioni lle bo raid, ac asesu achosion o wahardd cyflenwyr dan Ddeddf Caffael 2023.
Richard Dooner
Rheolwr Rhaglen
