Digidol, Data a Thechnoleg
Mae’r defnydd o’r strategaeth Digidol, Data a Thechnoleg yn cyflawni’r potensial i wella bywydau pobl, cryfhau’r modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus a gwaith y llywodraeth eu cyflawni, yn ogystal â helpu busnesau i addasu ar gyfer y dyfodol.
Gyda hyn mewn golwg, mae’r Strategaeth Ddigidol i Gymru yn edrych tua’r dyfodol, ac yn amlinellu gweledigaeth genedlaethol i fabwysiadu dull digidol unedig ledled Cymru.
Mae’n canolbwyntio ar newid ledled Cymru, ac yn dwyn ynghyd ymdrechion yr awdurdodau lleol, y byd academaidd, cynghorau cymuned, byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, darparwyr addysg, cyrff tân ac achub, cyrff hyd braich, y trydydd sector, a phartneriaethau cymdeithasol. Mae’n nodi sut y byddant, gyda’i gilydd, yn dylunio ac yn gweithredu gwasanaethau cyhoeddus gwell, yn datblygu’r economi, ac yn lleihau anghydraddoldebau.
Bydd y strategaeth hon yn sicrhau manteision adnoddau digidol i bobl, gwasanaethau cyhoeddus, a busnesau Cymru.
Bydd y Parth Digidol, Data a Thechnoleg yn Procurex Cymru yn cynnal sawl sesiwn sy’n canolbwyntio ar ddeall sut mae caffael yn gweithredu’r strategaeth hanfodol hon drwy’r Cynllun Gweithredu Digidol Caffael.
Digidol, Data a Thechnoleg
Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae
Warren Smith
Cyfarwyddwr Gwybodaeth, Arloesedd ac Effaith
David Nicholson
Pennaeth Masnachol a Chaffael - Cangen Data Digidol a TGCh
Duncan Brown
Pennaeth Peirianneg Meddalwedd
Mae Duncan Brown yn bennaeth peirianneg meddalwedd yn Neorfa Deallusrwydd Artiffisial Swyddfa’r Cabinet, lle mae’n arwain timau sy’n defnyddio deallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol i ddarganfod ffyrdd o fynd i’r afael â phroblemau a arferai fod yn anhydrin ar draws y llywodraeth. Cyn hynny bu’n creu ac yn arwain y swyddogaeth beirianneg ar gyfer recriwtio athrawon yn yr Adran Addysg, ar ôl treulio degawd yn gweithio mewn egin fusnesau yn y diwydiannau cyhoeddi a thechnoleg addysg.
Paul Peters
Rheolwr Gyfarwyddw
Fel Ditectif Uwcharolygydd gyda dros 25 mlynedd o brofiad mewn plismona a chefndir mewn ymchwilio ac atal seiberdroseddu, mae Paul wedi ymgymryd â rôl Cyfarwyddwr Canolfan Seibergadernid Cymru.
Tra’n gweithio yn Tarian, yr Uned Troseddau Cyfundrefnol Ranbarthol sy’n cynnwys y tri heddlu yn Ne Cymru, bu’n gweithio’n agos gyda busnesau i godi ymwybyddiaeth o fygythiad seiber, a bu’n arwain partneriaeth i greu pecyn Atal Seiberdroseddu gan gynnwys addysg, ymwybyddiaeth a chymorth gorfodi’r gyfraith ledled Cymru.
Mae Paul yn angerddol dros atal seiberdroseddu a diogelu ein busnesau ledled Cymru. Mae Canolfan Seibergadernid Cymru yn gyfle unigryw i roi cymorth i fusnesau bach a chanolig a microfusnesau, gan weithio gydag academia ac arbenigwyr yn y sector preifat i godi ymwybyddiaeth a darparu atebion a fydd yn helpu i’w hatal rhag dioddef troseddu seiber.
David Holbrook
Senior Category Manager
NHS SBS is the UK's only full service provider of corporate services to the NHS, offering payroll, procurement, finance, digital, and integrated care solutions
Heather Cover-Kus
Pennaeth Rhaglen y Llywodraeth Ganolog
Alex Small
Digital Platforms & Innovation Lead
Alex Small is the Digital Platforms & Innovation lead for Tata Steel UK. This role involves the delivery of product information for Tata Steel’s UK businesses as well as the digital reach and interlock of the business through its data and platforms. Although starting with product-specific data, Alex’s role looks at ways in which a wide-ranging array of data might be linked to physical products (through Tag & Track and Digital Twins) to add value for product traceability, circular economy and digital integration as a whole.
Alex sits on several working groups, including the Lexicon working group and GS1 UK Construction group, he also represents worldsteel and UK steel in digital construction standards committees. He is an active member of Constructing Excellence - chairing their manufacturing, technology and offsite theme group - and sits on Construction Product Europe’s Digital Task Group.
Recently, Alex headed up Tata Steel’s involvement with the SEISMIC project – a construction platform predominantly geared towards modular manufacturers. Alex is a keen advocate for structured data, IoT, DfMA, offsite construction and an integrated, digital, built environment.