Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru
Procurex Cymru 2026
Ymwelwch â Phafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru yn Procurex Wales 2026, lle bydd Llywodraeth Cymru a sefydliadau caffael blaenllaw eraill yn dod ynghyd unwaith eto mewn ardal bwrpasol yng nghalon yr arddangosfa.
Bydd Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i brynwyr a chyflenwyr fframwaith, boed yn bresennol neu'n uchelgeisiol, ymgysylltu â'r rhai sy'n datblygu polisi ac yn rheoli contractau fframwaith cenedlaethol a sectoraidd. Mae hwn yn gyfle gwych i brynwyr a chyflenwyr ddeall pa fframweithiau sydd ar gael i ymuno â nhw a phrynu ganddynt, a manteisio i'r eithaf ar botensial y fframweithiau hynny.
Cyfarfyddwch â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Sell2Wales a Busnes Cymdeithasol Cymru i ddarganfod mwy am gaffael ar draws Cymru.