Arddangosfa Micro-fusnesau, BBaCh a'r Trydydd Sector
Procurex Cymru 2026
Arddangosfa Micro-fusnesau, BBaCh a’r Trydydd Sector (Arddangosfa MST)
Yn ei thrydedd flwyddyn eleni, crëwyd Arddangosfa MST Procurex Cymru er mwyn galluogi timau caffael i archwilio cyfleoedd newydd i ehangu eu cadwyni cyflenwi i gynnwys mwy o fusnesau bach a micro-fusnesau, yn ogystal â mentrau cymdeithasol, elusennau a sefydliadau di-elw yng Nghymru.
Wedi’i threfnu gan Lywodraeth Cymru – mewn partneriaeth â Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru – mae Arddangosfa 2026 yn cynnwys 10 sefydliad a ddewiswyd yn ofalus, sy’n cwmpasu amrywiaeth o sectorau, ac sydd wedi darparu cynnyrch a gwasanaethau o safon uchel yn llwyddiannus fel rhan o gadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus.
Nod yr Arddangosfa yw:
- 1 Dangos sut y gall sefydliadau llai weithio’n effeithiol i ychwanegu gwerth at raglenni caffael cyhoeddus arloesol.
- 2 Hwyluso sgyrsiau rhwng arddangoswyr, prynwyr y sector cyhoeddus a phartneriaid yr Arddangosfa ynghylch atebion ymarferol ar gyfer cyflawni caffael effeithiol a chyfrifol yn gymdeithasol.
- 3 Creu cyfleoedd i arddangoswyr yr Arddangosfa adrodd eu straeon, codi eu proffil a sicrhau contractau cyhoeddus newydd neu drefniadau cyflenwi newydd.
Bydd rhestr lawn o arddangoswyr Arddangosfa 2026 yn ymddangos yma.
*Mae Arddangosfa MST wedi’i lleoli ar ochr dde’r neuadd arddangos, rhwng Ardaloedd Datblygu Sgiliau Dyfodol Caffael a Datblygu Sgiliau Arloesedd Digidol mewn Caffael.