Cynaliadwyedd a Sero Net
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod amcan datgarboneiddio uchelgeisiol i leihau allyriadau o leiaf 45% erbyn 2030. Er mwyn cyflawni hyn, mae targed wedi cael ei osod hefyd i’r sector cyhoeddus yng Nghymru fod yn garbon niwtral erbyn 2030.
Gyda hyn mewn golwg, mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i ailgylchu 70% o’r holl gynnwys gwastraff erbyn 2025, a chynyddu’r ffigwr hwnnw i 80% erbyn 2030. Drwy fanteisio i’r eithaf ar gaffael cyhoeddus, rhagwelir y gellir symud yn sylweddol oddi wrth y deunyddiau hynny sydd â’r ôl troed carbon uchaf, a sicrhau mai nwyddau cynnwys y gellir eu hailddefnyddio, wedi’u hailddefnyddio, wedi’u hailweithgynhyrchu ac wedi’u hailgylchu sy’n cael eu hystyried yn gyntaf.
Bydd Parth Cynaliadwyedd a Sero Net Procurex Cymru yn cynnal sawl sesiwn yn canolbwyntio ar archwilio pam mae deall gofynion cynaliadwyedd caffael a thargedau datgarboneiddio sector cyhoeddus Cymru yn hanfodol er mwyn sicrhau busnes yn y farchnad sector cyhoeddus yng Nghymru.
Cynaliadwyedd a Sero Net
Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae
Kristen Green
Pennaeth Cynaliadwyedd
Ymunodd Kristen â Gwasanaeth Masnachol y Goron (CCS) yn 2013 ac mae wedi gweithio mewn rolau amrywiol ar draws y busnes yn ystod y 10 mlynedd diwethaf, gan gynnwys rheoli prosiectau, strategaeth fasnachol fframweithiau gwerth biliynau o bunnoedd a datblygu busnes. Dilynodd Kristen ei diddordeb yn yr amgylchedd yn ddiweddar ac ymgymerodd â swydd Pennaeth Cynaliadwyedd, gan weithio er mwyn datgarboneiddio’r gwariant blynyddol o £30 biliwn drwy’r CCS. Mae Kristen yn gweithio mewn cysylltiad agos â prynwyr yn y sector cyhoeddus, cyflenwyr a chyrff diwydiannol er mwyn helpu i gyflymu’r daith tuag at sero net erbyn 2050 fan bellaf. Mae gan Kristen gymhwyster MCIPS.
Aled Guy
Pennaeth Cynaliadwyedd a Rheoli Carbon Net Sero
Charlene Maginnis
Pennaeth Cyflawni Polisi ar gyfer Cadwyni Cyflenwi a Chynnig Gwasanaeth
Charlene yw Pennaeth Cyflawni Polisi ar gyfer Cadwyni Cyflenwi a Chynnig Gwasanaeth yng Ngwasanaeth Masnachol y Goron, y sefydliad prynu cyhoeddus mwyaf yn y DU. Symudodd Charlene i’r maes polisi masnachol yn dilyn dros 12 mlynedd mewn rolau categori a masnachol yn y sector cyhoeddus. Yn ystod y cyfnod hwn bu’n gweithio gyda chydweithwyr yn Swyddfa’r Cabinet a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon i weithredu’r cynllun caffael peilot ar gyfer darparu gwerth cymdeithasol yn y CCS, a bu’n helpu i
ddatblygu PPN 06/20 ar Werth Cymdeithasol i’r Llywodraeth Ganolog.
Robert Hatcher
Cyfarwyddwr Cyswllt
Mae gan Rob 15+ mlynedd o brofiad ym maes cynaliadwyedd ac mae’n arwain gwasanaethau cymorth Net Zero sefydliadol Yr Ymddiriedolaeth Garbon. Mae wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â chyrff cyhoeddus ar ddatblygu eu cynlluniau datgarboneiddio ers dros ddegawd, ac ef yw cyfarwyddwr prosiect rhaglen adrodd Net Sero Llywodraeth Cymru. Mae ganddo brofiad helaeth mewn cyfrifo carbon, gosod targedau, asesu prosiectau a chynlluniau gweithredu sero net.
Mae gan Rob gefndir mewn rheoli ynni, ac mae wedi cyflawni llawer o asesiadau dichonoldeb peirianneg ynni ac arolygon effeithlonrwydd ynni. Ar hyn o bryd mae Rob yn gweithio'n ddiflino ar ymdrechion datgarboneiddio cadwyn gyflenwi'r sector cyhoeddus. Mae’n cefnogi cyrff cyhoeddus i wella eu prosesau cyfrifyddu a rheoli carbon yn y gadwyn gyflenwi drwy ddatblygu dulliau caffael Sero Net y sector cyhoeddus.
Kevin Hammett
Uwch Reolwr Cyflawni
Mae gan Kevin gefndir gwyddoniaeth a pheirianneg gyda graddau a hanes gyrfa mewn Daeareg, Ffiseg a Pheirianneg, ochr yn ochr â gyrfa ymarferol o 45 mlynedd, yn rhedeg cwmni adeiladu BBaCh ers ei arddegau.
Ar ôl mwy nag 20 mlynedd yn y sector preifat, yn gweithio i gwmnïau rhyngwladol, gwnaeth newid gyrfa llwyr drwy ymuno ag Awdurdod Datblygu Cymru i arwain Prosiect Hydrogen a Chelloedd Tanwydd Cymru cyn datblygu’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio ar gyfer tai Cymru, ac yn y pen draw symud i’w rôl bresennol yn Llywodraeth Cymru, yn gyfrifol am adrodd ar allyriadau a chyflawni’r prosiect gwres carbon isel yn y sector cyhoeddus.
Keir Warner
Pennaeth Caffael
Keir Warner yw’r Pennaeth Caffael ar gyfer Partneriaeth Integredig Bae Abertawe. Mae’r briff hwn yn cynnwys cyfrifoldeb Caffael Rheng Flaen am Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a chyfrifoldeb Cyrchu Cenedlaethol am Ddarpariaethau, Gwasanaethau Gwesty a Chynnal a Chadw Radioleg.
Mae Keir, sydd â dros 18 mlynedd o brofiad ym maes caffael, wedi darparu contractau cymhleth ac uchel eu gwerth, gan ganolbwyntio ar gaffael cynaliadwy. Ymhlith diddordebau proffesiynol eraill Keir mae dysgu a datblygu, a gwelliant parhaus.
Wayne Welsby
Arweinydd Proffesiynol – Caffael a Gwasanaethau Masnachol,
Huw Lloyd
Rheolwr Cyfrifon Busnes a Chyflawni Prosiectau
Warren Smith
Cyfarwyddwr Gwybodaeth, Arloesedd ac Effaith