Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru

Ewch i Bafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru yn Procurex Cymru 2025, lle bydd Llywodraeth Cymru a sefydliadau caffael blaenllaw yn dod at ei gilydd unwaith eto mewn ardal bwrpasol yng nghalon yr arddangosfa.

Bydd Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i brynwyr a chyflenwyr fframwaith, y rhai sy’n bodoli eisoes a darpar gyflenwyr, ymgysylltu â’r rheini sy’n datblygu polisïau ac yn rheoli contractau fframwaith o fewn sectorau ac yn genedlaethol. Dyma gyfle penigamp i brynwyr a chyflenwyr ddeall pa fframweithiau mae modd ymuno â nhw a phrynu ganddynt a manteisio’n llawn ar bosibiliadau’r fframweithiau hynny.

Cwrdd â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, GwerthwchiGymru, Cyd, Prifysgol Caerdydd, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a mwy i gael rhagor o wybodaeth am gaffael ledled Cymru.

Previous Next