Sioe Arddangos Microfusnesau a Sefydliadau’r Trydydd Sector
mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus
Un o fanteision allweddol Deddf Caffael 2023 yw agor caffael cyhoeddus i newydd-ddyfodiaid, yn cynnwys busnesau bach a mentrau cymdeithasol, er mwyn iddynt allu cystadlu am fwy o gontractau cyhoeddus ac ennill mwy o’r contractau hynny.
Ar gyfer Procurex Cymru eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd i guradu ardal nodwedd newydd sy’n cydnabod rhagoriaeth ac arloesedd cyflenwyr ymhlith microfusnesau, mentrau cymdeithasol, elusennau a sefydliadau nid-er-elw. Bydd yr ardal dan sylw yn cynnig cyfle i arddangos cyfraniad y cyflenwyr bach ond pwysig hyn at sector caffael cyhoeddus Cymru, gan annog ychwaneg o gydweithredu yn y dyfodol.
Mae Sioe Arddangos Microfusnesau a Sefydliadau’r Trydydd Sector 2024 ar gyfer cyflenwyr sy’n gweithio yn y sector bwyd a diod ac sy’n cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau i ysgolion, ysbytai a lleoliadau eraill sy’n rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhorthdal tuag at gostau’r stondinau arddangos yn y parth hwn a gwahoddir datganiadau diddordeb gan unrhyw sefydliad yng Nghymru sy’n bodloni’r meini prawf*.
Bydd y cyfranogwyr terfynol yn cael eu dewis gan banel annibynnol o arbenigwyr. Bydd y cyflenwyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu o leiaf fis cyn y digwyddiad. Bydd pob sefydliad llwyddiannus yn cael cymorth i sicrhau y bydd eu presenoldeb yn y digwyddiad mor effeithiol â phosibl.
Amcanion y Sioe Arddangos
- Cydnabod microgyflenwyr a chyflenwyr y trydydd sector sydd wedi arddangos rhagoriaeth neu arloesedd.
- Ysbrydoli microfusnesau eraill a sefydliadau eraill yn y trydydd sector i ddatblygu a gwella’u harlwy, a chynorthwyo i’w masnacheiddio a’u hehangu ymhellach.
- Helpu gweithwyr proffesiynol caffael cyhoeddus i ddeall y manteision sy’n perthyn i gynnwys microfusnesau a sefydliadau’r trydydd sector yn eu cadwyni cyflenwi.
- Hwyluso trafodaethau a chydweithredu rhwng gweithwyr caffael proffesiynol a microfusnesau / cyflenwyr y trydydd sector ar draws amrywiaeth o sectorau.
Sut y gallaf gymryd rhan?
- Dylai sefydliadau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn Sioe Arddangos Microfusnesau a Sefydliadau’r Trydydd Sector 2024 yn Procurex Cymru lenwi ffurflen ‘Datgan Diddordeb’ ar-lein.
- Mae’r ffurflen yn eithaf syml ac ni fydd angen cyflwyno gwybodaeth ariannol fanwl ar hyn o bryd.
- Gwahoddir datganiadau diddordeb cyn y dyddiad cau, sef Dydd Sul Medi 29ain 2024.
- Bydd panel annibynnol yn cyfarfod ym mis Medi i fwrw golwg ar yr holl ffurflenni ac i ddewis oddeutu 10 o gyflenwyr i gymryd rhan yn y Sioe Arddangos a gynhelir ar 5 Tachwedd.
- Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu o leiaf fis cyn Procurex Cymru a byddant yn cael eu gwahodd i ymuno â gweithdy ar-lein er mwyn eu helpu i wneud y gorau o’u cysylltiad â’r digwyddiad.
*Meini prawf cymhwyso sylfaenol
- Rhaid i’ch busnes fod wedi’i leoli yng Nghymru (neu rhaid iddo fod â phresenoldeb yng Nghymru).
- Rhaid i’ch busnes gyflenwi cynhyrchion neu wasanaethau’n ymwneud â’r sector bwyd a diod/lletygarwch.
- Meddu ar y gallu/uchelgais i gyflenwi i gorff cyhoeddus yng Nghymru (ee awdurdodau lleol, sefydliadau’r GIG)
- Ni ddylai eich busnes fod wedi dod i gysylltiad erioed ag unrhyw weithgaredd a allai arwain at ei eithrio o gontract caffael cyhoeddus (gweler pdf (publishing.service.gov.uk)).