Sioe Arddangos Microfusnesau a Sefydliadau’r Trydydd Sector

mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a’r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus

Un o fanteision allweddol Deddf Caffael 2023 yw agor caffael cyhoeddus i newydd-ddyfodiaid, yn cynnwys busnesau bach a mentrau cymdeithasol, er mwyn iddynt allu cystadlu am fwy o gontractau cyhoeddus ac ennill mwy o’r contractau hynny.

Ar gyfer Procurex Cymru eleni, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio mewn partneriaeth â’r Ganolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus ym Mhrifysgol Caerdydd i guradu ardal nodwedd newydd sy’n cydnabod rhagoriaeth ac arloesedd cyflenwyr ymhlith microfusnesau, mentrau cymdeithasol, elusennau a sefydliadau nid-er-elw. Bydd yr ardal dan sylw yn cynnig cyfle i arddangos cyfraniad y cyflenwyr bach ond pwysig hyn at sector caffael cyhoeddus Cymru, gan annog ychwaneg o gydweithredu yn y dyfodol.

PublicValueProcurement

Mae Sioe Arddangos Microfusnesau a Sefydliadau’r Trydydd Sector 2024 ar gyfer cyflenwyr sy’n gweithio yn y sector bwyd a diod ac sy’n cyflenwi cynhyrchion a gwasanaethau i ysgolion, ysbytai a lleoliadau eraill sy’n rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cymhorthdal tuag at gostau’r stondinau arddangos yn y parth hwn a gwahoddir datganiadau diddordeb gan unrhyw sefydliad yng Nghymru sy’n bodloni’r meini prawf*.

Bydd y cyfranogwyr terfynol yn cael eu dewis gan banel annibynnol o arbenigwyr. Bydd y cyflenwyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu o leiaf fis cyn y digwyddiad. Bydd pob sefydliad llwyddiannus yn cael cymorth i sicrhau y bydd eu presenoldeb yn y digwyddiad mor effeithiol â phosibl.

Amcanion y Sioe Arddangos

  • Cydnabod microgyflenwyr a chyflenwyr y trydydd sector sydd wedi arddangos rhagoriaeth neu arloesedd.
  • Ysbrydoli microfusnesau eraill a sefydliadau eraill yn y trydydd sector i ddatblygu a gwella’u harlwy, a chynorthwyo i’w masnacheiddio a’u hehangu ymhellach.
  • Helpu gweithwyr proffesiynol caffael cyhoeddus i ddeall y manteision sy’n perthyn i gynnwys microfusnesau a sefydliadau’r trydydd sector yn eu cadwyni cyflenwi.
  • Hwyluso trafodaethau a chydweithredu rhwng gweithwyr caffael proffesiynol a microfusnesau / cyflenwyr y trydydd sector ar draws amrywiaeth o sectorau.

Sut y gallaf gymryd rhan?

  • Dylai sefydliadau sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn Sioe Arddangos Microfusnesau a Sefydliadau’r Trydydd Sector 2024 yn Procurex Cymru lenwi ffurflen ‘Datgan Diddordeb’ ar-lein.
  • Mae’r ffurflen yn eithaf syml ac ni fydd angen cyflwyno gwybodaeth ariannol fanwl ar hyn o bryd.
  • Gwahoddir datganiadau diddordeb cyn y dyddiad cau, sef dydd Iau 19 Medi 2024.
  • Bydd panel annibynnol yn cyfarfod ym mis Medi i fwrw golwg ar yr holl ffurflenni ac i ddewis oddeutu 10 o gyflenwyr i gymryd rhan yn y Sioe Arddangos a gynhelir ar 5 Tachwedd.
  • Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu o leiaf fis cyn Procurex Cymru a byddant yn cael eu gwahodd i ymuno â gweithdy ar-lein er mwyn eu helpu i wneud y gorau o’u cysylltiad â’r digwyddiad.

*Meini prawf cymhwyso sylfaenol

  • Rhaid i’ch busnes fod wedi’i leoli yng Nghymru (neu rhaid iddo fod â phresenoldeb yng Nghymru).
  • Rhaid i’ch busnes gyflenwi cynhyrchion neu wasanaethau’n ymwneud â’r sector bwyd a diod/lletygarwch.
  • Rhaid i’ch busnes fod â pheth profiad o gyflenwi corff cyhoeddus yng Nghymru (e.e. awdurdodau lleol, sefydliadau’r GIG).
  • Ni ddylai eich busnes fod wedi dod i gysylltiad erioed ag unrhyw weithgaredd a allai arwain at ei eithrio o gontract caffael cyhoeddus (gweler pdf (publishing.service.gov.uk)).