Cynhadledd Caffael Cymru
Rydym yn falch iawn o lansio Cynhadledd Caffael Cymru newydd sbon yn 2024, sy’n cael ei chynnal yn Procurex Cymru fis Tachwedd eleni. Bydd Cynhadledd Caffael Cymru, sy’n cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn dod ag arbenigwyr blaenllaw ar draws cymuned caffael Cymru ynghyd, a byddant yn trafod amrywiaeth o bynciau sy’n diffinio dyfodol caffael cyhoeddus, yn ogystal â chyflawni yn erbyn mentrau ac amcanion cyfredol y farchnad.
Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae
Y Gwir Anrh Mark Drakeford AS
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Daeth Mark yn Aelod Cynulliad dros Orllewin Caerdydd ym mis Mai 2011. Roedd yn Gadeirydd Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad o fis Gorffennaf 2011 – Mawrth 2013 a’r Pwyllgor Monitro Rhaglenni Ewropeaidd Cymru Gyfan o fis Gorffennaf 2011 – Mawrth 2013. Penodwyd yn Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Mawrth 2013. Penodwyd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ym mis Mai 2016. Penodwyd Mark yn Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid ar 3 Tachwedd 2017. Ar 12 Rhagfyr 2018 penodwyd Mark yn Prif Weinidog Cymru a daeth yn aelod o'r Cyfrin Gyngor ar 13 Chwefror 2019. Penodwyd Mark yn Brif Weinidog ar 13 Mai 2021.
Sian Lloyd
Newyddiadurwr a Cyflwynydd
Zoe Scaman
Founder
Zoe is the founder of Bodacious, a strategy studio focused on illuminating and navigating the
new frontiers of innovation and emerging technologies within the worlds of brands and
entertainment.
Her client roster includes Nike, Netflix, EA Games, Lego, Snapchat and many more.
She crafts ground-breaking strategies combining rigorous business intelligence, with 20+ years
of brand strategy know-how and a futurist lens.
Prior to Bodacious, she spent her career moving between trailblazing creative agencies; such as
Droga5. Best-in-class entertainment companies, like Ridley Scott Creative Group and 77X, the
sports x youth culture studio, founded by NBA superstar Luka Dončić. Forward-thinking
innovation consultancies such as Undercurrent. And world famous celebrities such as Enrique
Iglesias and DJ Khaled.
Julian Baker
Ymgynghorydd Rheoli
Yn fwyaf diweddar, Cyfarwyddwr Comisiynu Cydweithredol Cenedlaethol, ar ôl arwain gwaith trawsnewidiol ar gyfer Comisiynu Gwasanaethau Ambiwlans Cymru; Adrannau Achosion Brys Cymru a Model Mynediad Cymru a oedd yn rhan o’r Rhaglen Genedlaethol Gofal Brys ac Argyfwng. Julian yw Creawdwr y fethodoleg gomisiynu arloesol a wnaed yng Nghymru, CAREMORE®, ac yn flaenorol bu’n Gyfarwyddwr Cyllid ar draws GIG Cymru (Ymddiriedolaeth GIG Acíwt a Chymunedol; GIG Ambiwlans Ymddiriedolaeth; Bwrdd Iechyd Lleol).
Mae Julian yn credu mewn dod â chynllunio ac arweinyddiaeth glinigol ynghyd i gydweithio i gyd-gynhyrchu gwasanaethau iechyd yn y dyfodol. Trawsnewid gofal iechyd, rhoi polisi ar waith, a gwella profiad y claf.
Liz Lucas
Pennaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Digidol
Fe’i penodwyd yn Bennaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Digidol yn 2018. Cyn hyn, roedd yn Bennaeth Caffael yng Nghaerffili, a nawr mae Liz yn arwain tîm o 160 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn sy’n gyfrifol am ddarparu’r holl wasanaethau Profiad Cwsmeriaid, Trawsnewid Digidol, Caffael a Llywodraethu Gwybodaeth. Mae Liz yn Gymrawd o’r Sefydliad Siartredig Prynu a Chyflenwi ac mae ganddi ddiddordeb mewn adfywio cymdeithasol ac economaidd drwy ddefnydd effeithiol o gaffael.
Paul Griffiths
Pennaeth Cyflewni a Gallu Masnachol
Richard Selby
Cadeirydd Cenedlaethol
Mae Richard yn dod o Bont-y-pŵl ac mae’n Rheolwr Gyfarwyddwr Pro Steel Engineering ac yn Gadeirydd Cenedlaethol Sefydliad y Cyfarwyddwyr. Mae Richard yn un o noddwyr The Prince’s Trust, ac mae ganddo hefyd rôl allweddol fel Cadeirydd Pwyllgor Datblygu The Prince’s Trust - Cymru. Cafodd ei benodi’n Ddirprwy Raglaw Gwent ym mis Tachwedd 2021, ac mae wedi cyd-sefydlu Fforwm Economaidd Strategol Torfaen. Mae wedi ennill parch a chydnabyddiaeth sylweddol fel unigolyn dylanwadol yn y gymuned fusnes yng Nghymru. Mae dylanwad Richard yn ymestyn ymhellach gan ei fod newydd gael ei benodi’n Gyd-Gadeirydd Bwrdd Cwmbrân y Dyfodol, sy’n ceisio penderfynu sut y dylid gwario grant gwerth £20 miliwn a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cwm-brân drwy’r Cynllun Hirdymor ar gyfer Trefi.
Jonathan Irvine
Cyfarwyddwr Caffael, Cadwyn Gyflenwi, Logisteg a Thrafnidiaeth
Rwyf wedi bod yn gweithio ym maes caffael y GIG ers dros 30 mlynedd gyda’r rhan fwyaf o fy ngyrfa wedi’i threulio yn sefydliadau caffael cenedlaethol Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon. Yn y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi gweithio ar lefel uwch yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbytai Prifysgol Nottingham ac mae fy rôl bresennol yn arwain Gwasanaethau Caffael o fewn GIG Cymru. Rwy'n gobeithio bod fy mhrofiad dros nifer o flynyddoedd o weithio mewn gwahanol amgylcheddau gwleidyddol a gweithredol yn y GIG wedi fy ngalluogi i ddatblygu ymdeimlad craff o'r hyn sy'n gweithio'n dda (a ddim mor dda). Edrychaf ymlaen at barhau â’r gwaith gyda’m cydweithwyr caffael ledled Cymru a thu hwnt i helpu i gwrdd â’r heriau presennol a niferus sy’n dod i’r amlwg lle gall ein proffesiwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n poblogaeth cleifion a’r gymdeithas ehangach.
Catherine Lund
Cyfarwyddwr Caffael
Carl Thomas
Arweinydd Polisi a Rhanddeiliad Diwygio’r Broses Gaffael
Carl has a wealth of public procurement experience, having previously led the award-winning procurement team at one of Wales’ largest housing associations.
Before joining Welsh Government, Carl worked for the Chartered Institute of Procurement and Supply (CIPS), where he taught procurement and contract management best practice to public and private sector organisations across the globe. Carl also played an important role in CIPS’ work post-Grenfell, and supported the work of Working Group 11 to agree specific procurement competence levels for people involved in the construction of new higher risk residential buildings.
In his current role, Carl is responsible for developing Welsh Government’s wider Procurement Reform engagement activity, working closely with stakeholders across the Welsh public sector to ensure that they are ready to maximise the opportunities arising from procurement reform.
Yr Athro Jany Lynch
Canolfan Caffael Gwerth Cyhoeddus