Pafiliwn Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) yn sefydliad pwrpasol sy’n cefnogi cyrff statudol GIG Cymru drwy ddarparu amrywiaeth gynhwysfawr o wasanaethau a swyddogaethau cefnogi, sydd o ansawdd uchel ac yn canolbwyntio ar gwsmeriaid, a hynny ar ben darparu cyngor a chymorth proffesiynol i Lywodraeth Cymru.

Mae Gwasanaethau Caffael NWSSP yn darparu gwasanaeth Caffael i Dalu (P2P) cyflawn a phroffesiynol sy’n canolbwyntio ar gwsmeriaid i GIG Cymru drwy swyddogaethau Cyrchu Categorïau, Caffael Lleol Rheng Flaen, Cyfrifon Taladwy ac eAlluogi. Proseswyd 845,425 o archebion gan NWSSP yn 2021 – 2022; cyfanswm o £1.97bn.

Bydd Pafiliwn Caffael NWSSP yn darparu cyfle unigryw i gynrychiolwyr ymgysylltu â phersonél allweddol i ganfod sut gallai sefydliadau yn y sectorau cyhoeddus a phreifat elwa ar ddatblygu perthnasoedd gweithio newydd, a’r rheini sy’n bodoli eisoes, gydag NWSSP