Partneriaid y Digwyddiad
Diolch i’n Partneriad y Digwyddiad Procurex Cymru 2025.
Llywodraeth Cymru

Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Dan arweiniad y Prif Weinidog, mae’r llywodraeth yn gweithio ar draws meysydd datganoledig sy’n cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus fel iechyd, addysg a’r amgylchedd.
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau proffesiynol, technegol a gweinyddol o ansawdd uchel i GIG Cymru.
Busnes Cymru

Mae gwasanaethau Busnes Cymru yn darparu cyngor ac arweiniad arbenigol wedi’i ariannu’n llawn i gefnogi pobl yng Nghymru sy’n dechrau, yn rhedeg ac yn tyfu busnesau.
GwerthwchiGymru
Stand Number: Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru

Mae gwefan newydd GwerthwchiGymru yn ffynhonnell wybodaeth ac yn borth caffael a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru. Dyma bwy rydym yn ceisio helpu; - busnesau i ennill contractau sector cyhoeddus ledled Cymru - prynwyr yn y sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro - busnesau i hyrwyddo eu gwasanaethau - busnesau i ddod o hyd i gyfleoedd am gontractau
Cyd
Stand Number: Welsh Government Procurement Pavilion

Cyd is the centre of excellence where procurement and commercial communities can learn from and support each other. Cyd is here to support commercial and procurement professionals to implement Welsh Procurement Policies in their day-to-day work.
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Partner
Stand Number: Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol ac yn hyrwyddo democratiaeth leol yng Nghymru. Prif ddibenion y gymdeithas yw hyrwyddo gwell llywodraeth leol, hyrwyddo ei henw da a chefnogi awdurdodau i ddatblygu polisïau a blaenoriaethau a fydd yn gwella gwasanaethau cyhoeddus a democratiaeth.
Cardiff University
Stand Number: Government Procurement Pavilion

Bio coming soon
Caerphilly County Borough Council
Partner
Stand Number: Welsh Government Procurement Pavilion

Caerphilly County Borough Council working in conjunction with Welsh Government and all twenty-two councils in Wales has established and leads a single commercial procurement channel via a dynamic purchasing system (‘DPS’) for the provision of technology and associated services. Since 2019 the EdTech service provision has successfully delivered several investment initiatives to help transform the way digital technology is accessed and used for teaching and learning in all schools across Wales as part of the HwB Programme. The DPS has evolved to also include the provision of corporate requirements that can be accessed by other public sector bodies across Wales. In addition to EdTech provision, Caerphilly also lead the Welsh Public Sector Collaborative Food Group (WPSCFG) framework. This framework leverages the collective purchasing power of multiple public sector organisations in Wales, promoting value for money and sustainability. Designed to meet diverse needs through a structured approach, including robust quality standards, detailed specifications, and clear guidelines for Suppliers, strongly emphasising compliance with food safety regulations, environmental sustainability and social value. The EdTech DPS and Collaborative Food Group framework aligns with the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 and positively demonstrates procurement best practice.
Partneriaeth Adeiladu Gogledd Cymru / North Wales Construction Partnership / Denbighshire County Council
Partner
Stand Number: Welsh Government Procurement Pavilion

Future Generations Commissioner for Wales
Stand Number: Welsh Government Procurement Pavilion

Bio coming soon
Ffrâm24 - All Wales Framework
Partner
Stand Number: Welsh Government Procurement Pavilion

Ffrâm24 is a multi-supplier framework for building materials and associated services. Our ambition as a Wales only Framework is to provide a quality supply chain for Welsh public sector, charities and third sector organisations and in return, support our communities. This provides Wales with a great circular economy and keeping the Welsh pound local. Welsh Government fully endorses Ffrâm24 and supports it as a natural successor to the National Procurement Service (NPS) building materials framework. Mae Ffrâm24 yn fframwaith aml-gyflenwr ar gyfer deunyddiau adeiladu a gwasanaethau cysylltiedig. Ein huchelgais fel Fframwaith Cymru yn unig yw darparu cadwyn gyflenwi o ansawdd ar gyfer y sectorau cyhoeddus Cymru, elusennau a sefydliadau trydydd sector er mwyn cefnogi ein cymunedau. Mae hyn yn darparu economi gylchol wych i Gymru ac yn cadw'r bunt Gymreig yn lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn arnodi Ffrâm24 ac yn ei gefnogi fel olynydd naturiol i fframwaith deunyddiau adeiladu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS).
Ardal
Partner
Stand Number: Welsh Government Procurement Pavilion

Ardal is the new name for the procurement service run by Cardiff Council. As well as delivering our collaborative partnership with Monmouthshire, Torfaen and the Vale of Glamorgan, the service will continue to manage our award-winning South-East Wales regional frameworks.
Gwasanaeth Masnachol y Goron

Mae gan bob penderfyniad prynu y byddwch chi’n ei wneud y pŵer i helpu Cymru i ailgodi’n gryfach, yn decach ac yn fwy gwyrdd. Gwasanaeth Masnachol y Goron yw sefydliad caffael cyhoeddus mwyaf y DU. Rydym yn defnyddio ein harbenigedd masnachol i helpu prynwyr yn y llywodraeth ganolog ac ar draws y sector cyhoeddus a’r trydydd sector i brynu popeth, gan gynnwys meddygon locwm, gliniaduron, ceir heddlu a thrydan. Mae ein partneriaethau strategol â sefydliadau ledled Cymru yn sicrhau ein bod ni’n cydweithio’n effeithiol er budd ein cwsmeriaid yng Nghymru
Y Weinyddiaeth Amddiffyn

Mae tîm Cynnal Busnes ym maes Amddiffyn yn y Weinyddiaeth Amddiffyn yn hwyluso mynediad busnesau arloesol ac anhraddodiadol newydd at y gadwyn gyflenwi amddiffyn. Mae’r tîm yn rhoi cyngor ac arweiniad i gwmnïau ar sut i ddod yn gyflenwr amddiffyn a chael gafael ar gyfleoedd tendro a chontractio’r Weinyddiaeth Amddiffyn drwy amrywiaeth o sianeli: – Cyfleuster desg gymorth -Presenoldeb mewn arddangosfeydd masnach ledled y DU lle byddant yn rhoi cyflwyniadau ar gais -Gweminarau -Rhoi cyhoeddusrwydd i wahanol ffynonellau o wybodaeth ddefnyddiol drwy’r porth cyflenwyr a gynhelir ar Defence Contracts Online ac ar eu cyfrif Twitter @defenceproc
WRAP
Partner

WRAP yw un o’r prif elusennau cynaliadwyedd yn y byd. Rydym yn gweithio gyda busnesau, llywodraethau, dinasyddion ac elusennau yn y DU i wneud y blaned yn lle iachach a mwy diogel. Yng Nghymru, mae ein gwaith yn cynnwys cefnogi cyrff cyhoeddus i wreiddio caffael cynaliadwy er mwyn cyflawni canlyniadau amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol cadarnhaol, ac er mwyn sicrhau’r cyfraniadau mwyaf posibl at Nodau Llesiant Cymru.
Sefydliad Siartredig Caffael a Chyflenwi (CIPS)

CIPS, y sefydliad aelodaeth byd-eang ar gyfer caffael a chyflenwi. Gyda 60,000 o aelodau ar draws 156 o wledydd a swyddfeydd ledled y byd, rydym yn adeiladu rhwydwaith byd-eang i bweru ein proffesiwn. Rydym yn arwain ym maes addysg a hyfforddiant. Rydym yn darparu gwybodaeth ac offer. Ymhellach, rydym yn helpu i feithrin gallu mewn sefydliadau. Drwy ein holl waith, ni yw’r llais a’r safon.
Sefydliad y Cyfarwyddwyr
Partner

Mae Sefydliad y Cyfarwyddwyr yn gymuned aelodaeth lewyrchus i gyfarwyddwyr yn y DU a thu hwnt. Ar adeg pan fo cael cyfarwyddwyr da’n bwysicach nag erioed, rydym yn cynnig datblygiad proffesiynol, cysylltiadau gwerthfawr a dylanwad ystyrlon. Mae Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru yn cefnogi buddiannau amryw sectorau busnes y genedl – o amaethyddiaeth i dwristiaeth ac o beirianneg i ynni adnewyddadwy. Cysylltwch â’ch cangen leol i sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn gyson am y materion polisi sy’n bwysig i chi – p’un a ydynt yn dod o’r Senedd neu o San Steffan.
Tracker
Partner

Tracker yw’r unig ddatrysiad datblygu busnes o’r dechrau i’r diwedd gyda’r wybodaeth unigryw sydd ei hangen arnoch chi i ddod o hyd i fusnesau, gwneud cynnig amdanynt a’u hennill. Drwy wneud defnydd o gronfa ddata fwyaf Ewrop o gyfleoedd a gwybodaeth am gystadleuwyr – gallwch chi ymgysylltu’n gynharach i werthu’n fwy effeithiol ac ennill mwy o fusnes. Yn ogystal, mae Tracker yn well byth erbyn hyn – gallwch chi nawr uwchlwytho dogfennau cyfle hefyd a rheoli eich ymatebion bidio i gyd yn yr un lle. Canolbwyntio ar ennill busnes – yn hytrach na chwilio amdano.
Delta eSourcing
Partner

Mae Delta eSourcing yn galluogi gwaith caffael effeithlon ac effeithiol sy’n cydymffurfio ag unrhyw ofynion. Caiff ei ddefnyddio gan filoedd o brynwyr yn y sector cyhoeddus bob dydd, a gellir defnyddio ei Borth Prynwyr, ei Reolwr Tendrau, ei Reolwr Cyflenwyr, ei Reolwr Contractau a’i wasanaethau eArwerthiannau ar wahân i’w gilydd neu wedi’u cyfuno i ffurfio cyfleuster caffael hollgynhwysol sy’n effeithiol ac yn gynhwysfawr. Mewn cyfnod heriol, mae Delta eSourcing yn sicrhau tryloywder a gwerth am arian ac yn sicrhau y cydymffurfir ag unrhyw ofynion.
Cadence Marketing
Partner

Yn Cadence Marketing, rydym yn deall pwysigrwydd data yn y sector cyhoeddus ac rydym wedi creu cronfa ddata gynhwysfawr o dros 200,000 o gysylltiadau ar draws 31,600 o sefydliadau, sy’n cynnwys llywodraethau canolog, llywodraeth leol, y GIG, y sector addysg, y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r gwasanaethau brys. Rydym wrth ein bodd yn helpu busnesau i gysylltu â phrynwyr yn y sector cyhoeddus drwy atebion marchnata sydd wedi’u targedu. P’un a ydych yn awyddus i roi hwb i’ch ymgyrchoedd ebostio, gwneud rhywfaint o ymchwil i’r farchnad, cynnal gweminar, neu greu cynnwys heb ei ail, gallwn ni eich helpu. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd y bobl gywir, yn cael y wybodaeth ddiweddaraf yn gyson, yn gwneud penderfyniadau gwybodus ac yn gwella eich cyfradd ennill busnes.
Caffael PASS

Mae ymgynghorwyr caffael PASS yn cyflwyno mewn mwy na chant o gynadleddau a digwyddiadau bob blwyddyn, yn ogystal â darparu ymgynghoriaeth a hyfforddiant mewnol i gleientiaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Mae ein sesiynau hyfforddi wedi’u paratoi i ymdrin â gofynion cyfreithiol caffael cyhoeddus mewn modd cyffredinol, gan ddefnyddio enghreifftiau bywyd go iawn i helpu i symleiddio’r rheolau. Mae miloedd o sefydliadau, rhai cyhoeddus a phreifat, eisoes wedi elwa o ddigwyddiadau a chyngor tendro/caffael arferion gorau PASS. P’un a ydych chi’n gweithio ym maes caffael yn y sector cyhoeddus neu’n tendro am gontractau sector cyhoeddus, gall PASS eich helpu chi i wella eich effeithlonrwydd a’ch effeithiolrwydd.
Supply2Gov
Partner

Un nod sydd gennym yn Supply2Gov, sef sicrhau bod tyfu busnes yn symlach i unig fasnachwyr, microfusnesau a busnesau bach. Caiff Supply2Gov ei yrru gan gronfa ddata fwyaf y DU a Gweriniaeth Iwerddon o hysbysiadau a dyfarniadau’n ymwneud â chontractau yn y sector cyhoeddus, a byddwch hefyd yn cael rhybuddion dyddiol gennym drwy ebost. Rydym, felly, wedi sicrhau ei bod mor hawdd ag sy’n bosibl i chi ddod o hyd i gyfleoedd perthnasol cyn gynted ag y byddant yn dod ar gael – sy’n rhoi mwy o amser i chi ganolbwyntio ar lunio eich cynigion a thyfu eich busnes. Gallwch gofrestru am ddim ar gyfer ardal leol o’ch dewis chi neu gallwch fanteisio ar ein opsiynau talu misol hyblyg – sy’n rhoi i chi opsiwn i gael gwasanaeth rhybuddion am gontractau, sy’n gost-effeithiol, y mae modd ei ddefnyddio ar raddfa lai neu fwy, ac nad oes unrhyw risg yn perthyn iddo.