Bydd gan Procurex Cymru bedwar parth amlwg: y Parth Arloesi a Thechnoleg, y Parth Cynaliadwyedd a Chaffael Gwyrdd, y Parth Cydweithio a Phartneriaeth, a’r Parth Cydymffurfio a Rheoli Risg. Bydd pob un ohonynt yn cynnig amrywiaeth o sesiynau siarad a chyflwyniadau gan arbenigwyr amlwg o sefydliadau prynwyr a chyflenwyr blaenllaw.
Bydd y sesiynau hyn yn galluogi’r sawl a fydd yn bresennol i feithrin dealltwriaeth werthfawr o gyfleoedd ar hyn o bryd ac yn y dyfodol ym maes caffael cyhoeddus ar draws Cymru. Bydd Procurex Cymru yn rhoi i’r sawl a fydd yn mynychu y wybodaeth a’r sgiliau y bydd arnynt eu hangen i ddatblygu eu gweithgareddau caffael yn y dyfodol.