Pentref Ymgysylltu â Busnesau Bach

Mae’r Pentref Ymgysylltu â Busnesau Bach yn ardal arddangos bwrpasol, a’i bwriad yn benodol yw galluogi busnesau i arddangos eu datblygiadau arloesol a’u gallu. Bydd y pentref hwn yn cynnwys stondinau arloesol, parod i’w defnyddio, a fydd yn creu presenoldeb proffesiynol a thrawiadol yn y digwyddiad.

Prif Nodweddion:

Stondinau Arddangos

Stondinau o safon, parod ar gyfer y sioe, a ddarperir er mwyn i fusnesau arddangos eu cynnyrch, eu gwasanaethau a’u datblygiadau arloesol yn effeithiol.

Amlygrwydd a Sylw

Lleoliad ardderchog yn y digwyddiad er mwyn bod mor amlwg ag sy’n bosibl a denu cleientiaid, partneriaid a buddsoddwyr posibl.

Cyfleoedd i Rwydweithio

Cyfleoedd i gysylltu ag arweinwyr y diwydiant, gweithwyr proffesiynol ym maes caffael, a busnesau bach a chanolig eraill drwy sesiynau rhwydweithio wedi’u trefnu a thrwy gyfleoedd i ryngweithio’n anffurfiol.

Gwasanaethau Cymorth

Cymorth yn y fan a’r lle i gynorthwyo busnesau i osod eu stondinau, a chyngor ynghylch eu dulliau cyflwyno ac ynghylch ffyrdd o sicrhau eu bod yn gwneud yr argraff orau posibl yn yr arddangosfa.

Sesiynau Arddangos

Cyfleoedd i fusnesau gyflwyno eu cynnyrch mewn sesiynau arddangos pwrpasol, gan dynnu sylw at y gwerth unigryw y maent yn ei gynnig.

Amcan
Nod y Pentref Busnesau Bach yw grymuso busnesau drwy roi llwyfan proffesiynol iddynt allu arddangos eu datblygiadau arloesol, bod yn fwy amlwg, a meithrin cysylltiadau gwerthfawr yn y gymuned caffael cyhoeddus.