
Y Parth Caffael Cynaliadwy a Chymdeithasol
Ffocws: Pwysleisio arferion cynaliadwy a chynnyrch eco-gyfeillgar.
- I Gyflenwyr: Llwyfan i gyflwyno cynnyrch cynaliadwy, megis deunyddiau sy’n garedig i’r amgylchedd, cynnyrch sydd â llai o ôl troed carbon, a gwasanaethau sy’n hybu egwyddorion economi gylchol.
- I Brynwyr: Cyfle i ddeall sut mae integreiddio arferion caffael gwyrdd yn eu prosesau. Gallai’r sesiynau gynnwys strategaethau i leihau effaith amgylcheddol, dewis cyflenwyr cynaliadwy a gweithredu polisïau caffael gwyrdd.
Siaradwyr
Gordon Brown MCIOB CEnv
Y Panel Cynghori ar Gynaliadwyedd – Is-gadeirydd

https://www.linkedin.com/in/gordonjohnbrown/
Jarrad Morris
Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol

Jarrad Morris yw Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol FleetEV, busnes arobryn sy’n sbarduno'r newid i gerbydau trydan ar draws y sector cyhoeddus, busnesau ac unigolion. O dan ei arweinyddiaeth, mae FleetEV wedi sicrhau dwy wobr fawr i'r diwydiant am brosiectau caffael cydweithredol a ddarparwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ac mae wedi arbed dros £1.2 miliwn i'r sector cyhoeddus ar gostau caffael fflyd rhwng 2023 a 2025. Ochr yn ochr â FleetEV, mae Jarrad hefyd yn arwain PLUG Charging, cangen seilwaith y cwmni sy'n darparu atebion arloesol ar gyfer gwefru cerbydau trydan, i gefnogi'r gwaith o fabwysiadu dulliau teithio cynaliadwy yn ehangach. Mae Jarrad yn siarad Cymraeg iaith gyntaf ac yn eiriolwr brwd dros Gymru fwy gwyrdd. Mae ganddo wybodaeth heb ei hail am gerbydau trydan ac atebion ymarferol i helpu sefydliadau i ddatgarboneiddio eu fflydoedd. Mae hefyd yn credu'n gryf ym mhŵer caffael fel grym er lles, er mwyn sicrhau bod pob prosiect yn creu gwerth cymdeithasol ystyrlon ochr yn ochr â chael effaith amgylcheddol.
Oliver Patrick
Rheolwr, Rhaglenni ac Arloesi

Paul Griffiths
Pennaeth Cyflawni, Caffael a Masnachol

Agenda'r Parth Caffael Cynaliadwy a Chymdeithasol
Gallai’r agendâu newid

Pennaeth Cyflawni, Caffael a Masnachol
Llywodraeth Cymru
Gwerth Cymdeithasol ym maes Caffael – Y TCMau Cymreig - 10:35 - 11:00
Mae’r fframwaith TCMau Cymreig (Themâu, Canlyniadau a Mesurau) yn darparu ffordd gyson o fesur ac adrodd ar werth cymdeithasol ym maes caffael. Mae’r sesiwn hon yn cynnig canllawiau ymarferol ar ddefnyddio’r TCMau i ymgorffori gwerth cymdeithasol o'r cychwyn cyntaf, cadw golwg ar y ddarpariaeth, a dangos effaith.
Speakers
Pennaeth Cyflawni, Caffael a Masnachol
Llywodraeth Cymru

Rheolwr, Rhaglenni ac Arloesi
Yr Ymddiriedolaeth Garbon

Pennaeth Cynaliadwyedd a Rheoli Carbon Net Sero
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Cynghorydd Datgarboneiddio
Busnes Cymru
PANEL: Caffael ar gyfer Cymru Sero Net: Troi Strategaeth yn Weithredu yn y Gadwyn Gyflenwi - 11:30 - 11:55
Arbenigwyr o bob sector sy’n trafod sut mae uchelgeisiau sero net Cymru yn cael eu trosi'n gamau caffael go iawn. Mae'r panel hwn yn archwilio ymgysylltu â chyflenwyr, gofynion contractau, a dulliau cydweithredol o ddatgarboneiddio cadwyni cyflenwi.
Speakers
Rheolwr, Rhaglenni ac Arloesi
Yr Ymddiriedolaeth Garbon

Pennaeth Cynaliadwyedd a Rheoli Carbon Net Sero
Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru

Cynghorydd Datgarboneiddio
Busnes Cymru

Arbenigwr Economi Gylchol a Chynaliadwyedd
Tata Steel UK
Astudiaeth Achos Port Talbot - 12:00 - 12:25
Yn y sesiwn hon, bydd Tata Steel yn rhannu sut mae ei fuddsoddiad trawsnewidiol ym Mhort Talbot yn ymgorffori cynaliadwyedd wrth wraidd ei waith. O hyrwyddo cynhyrchu dur carbon isel i gefnogi seilwaith ynni gwyrdd a meithrin cyfleoedd cadwyni cyflenwi lleol, bydd yr astudiaeth achos hon yn dangos sut gall buddsoddiad strategol sicrhau manteision amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd hirdymor.
Speakers
Arbenigwr Economi Gylchol a Chynaliadwyedd
Tata Steel UK

Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol
FleetEV
Fflyd Cerbydau Trydan: Pontio’r Fflyd o'r Dechrau i'r Diwedd - 12.30 - 12.50
Mae datgarboneiddio fflyd o gerbydau yn allweddol i dargedau cynaliadwyedd y sector cyhoeddus. Mae'r sesiwn hon yn archwilio trawsnewidiad fflyd cerbydau trydan o'r dechrau i'r diwedd, gan gwmpasu heriau cynllunio, seilwaith, cyllido a chaffael.
Speakers
Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol
FleetEV

Pennaeth Cyflawni Polisi ar gyfer Cadwyni Cyflenwi a Chynnig Gwasanaeth
Gwasanaeth Masnachol y Goron
Gwerth Cymdeithasol mewn Fframweithiau – Canllaw Ymarferol i Ddiwallu eich Angen - 13:25 - 13:50
Gall fframweithiau fod yn offer pwerus ar gyfer cyflawni gwerth cymdeithasol, ond mae angen cynllunio clir a chanlyniadau y gellir eu mesur er mwyn llwyddo. Mae'r sesiwn hon yn rhannu dulliau ymarferol o ymgorffori gwerth cymdeithasol i gytundebau fframweithiau.
Speakers
Pennaeth Cyflawni Polisi ar gyfer Cadwyni Cyflenwi a Chynnig Gwasanaeth
Gwasanaeth Masnachol y Goron

Uwch Arbenigwr Caffael Cynaliadwy
WRAP
Ymgorffori Cynaliadwyedd o'r Tendr i'r Cyflawni - 13:55 - 14:20
Ni ddylai cynaliadwyedd ddod i ben wrth ddyfarnu’r contract. Mae'r sesiwn hon yn archwilio sut i ymgorffori egwyddorion gwyrdd, o ddatblygu tendrau hyd at reoli contractau, gan sicrhau bod ymrwymiadau amgylcheddol yn cael eu cyflawni’n ymarferol.
Speakers
Uwch Arbenigwr Caffael Cynaliadwy
WRAP

Y Panel Cynghori ar Gynaliadwyedd – Is-gadeirydd
Y Sefydliad Adeiladu Siartredig
Cyflawni Sero Net Drwy Gydweithrediad Caffael - 14:25 - 14:50
Gall cydweithio ar draws sefydliadau a sectorau gyflymu cynnydd sero net. Mae'r sesiwn hon yn tynnu sylw at enghreifftiau o fentrau caffael ar y cyd sy'n cyflawni gostyngiadau carbon yng Nghymru.
Speakers
Y Panel Cynghori ar Gynaliadwyedd – Is-gadeirydd
Y Sefydliad Adeiladu Siartredig


