Lleoliad ac Amseroedd
Amseroedd Agor: 0900 – 1600
Utilita Arena Cardiff, Mary Ann Street, Cardiff CF10 2EQ

Cyrraedd y lleoliad
O’r gorllewin: Gadewch draffordd yr M4 wrth Gyffordd 33 ar hyd yr A4232.
O’r dwyrain: Gadewch draffordd yr M4 wrth Gyffordd 29.
Nid oes gennym le i’n cynulleidfaoedd barcio ar y safle, ond mae digon o feysydd parcio aml-lawr o’n cwmpas.
Dyma’r meysydd parcio eraill sydd gerllaw:
NCP Rapports – Capasiti: 131; Lleoedd i Bobl Anabl: 3
St David’s – Capasiti: 2568; Lleoedd i Bobl Anabl: 120
John Lewis – Capasiti: 550; Lleoedd i Bobl Anabl: 21
NCP Pellet Street – Capasiti: 296; Lleoedd i Bobl Anabl: 8
NCP Stryd Adam – Capasiti: 427; Lleoedd i Bobl Anabl: 20
NCP Heol y Porth – Capasiti: 330; Lleoedd i Bobl Anabl: 4
Mae’r cwmnïau tacsis lleol canlynol ymhlith y rhai sy’n darparu cludiant hygyrch:
Veezu Taxi – 02920 333 333
Capital Cabs – 02920 777 777
Byddai’n ddoeth archebu tacsis hygyrch cyn eich ymweliad.
TACSIS A MANNAU GOLLWNG TEITHWYR:
Mae safle tacsis yn Stryd Tredegar a Ffordd Churchill, lle caiff tacsis ollwng a chasglu teithwyr.
Ar y brif reilffordd rhwng de Cymru a Llundain, dewch oddi ar y trên yng ngorsaf Caerdydd Canolog. O’r cymoedd a Bae Caerdydd, dewch oddi ar y trên yng ngorsaf Heol y Frenhines, Caerdydd. Mae’r Arena ychydig funudau o waith cerdded o’r ddwy orsaf.
I gael gwybodaeth am deithio ar y trên, ewch i wefannau National Rail a Trafnidiaeth Cymru.
Dim ond 30 munud y mae’n ei gymryd i deithio mewn car o Faes Awyr Rhyngwladol Caerdydd i ganol y ddinas.
Bws Caerdydd yw’r darparwr bysiau lleol ar gyfer teithio yng nghanol y ddinas. Gallwch gael gafael ar ragor o wybodaeth a chynllunio eich taith drwy ddefnyddio gwefan Bws Caerdydd.
Nodwch fod Cyfnewidfa Bws Caerdydd y drws nesaf i orsaf drenau Caerdydd Canolog. At hynny, gallwch ddal bysiau i ardaloedd cyfagos o arosfannau sydd o amgylch canol y ddinas.
Aros gerllaw
Wedi ei leoli 2 funud o waith cerdded o’r lleoliad, mae gan y gyrchfan hon 6 bwyty, clwb iechyd, pwll nofio a chyfleusterau ystafell gyfarfod.
Mae’r Premier Inn yng Nghasnewydd wedi ei leoli’n hwylus wrth ymyl nifer o fwytai poblogaidd.
Gwesty tawel gyda bwytai, bar a chyfleusterau ffitrwydd o fewn cyrraedd hawdd i’r lleoliad.
Mae Gwesty Coldra Court o fewn cyrraedd mewn 15 munud ar droed. Gyda bar, bwyty, clwb iechyd a phwll nofio, mae’r gwesty hwn hefyd yn cynnig gwasanaeth bws gwennol.
Mae Gwesty Tŷ yn daith 10 munud ar droed o’r lleoliad. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys bar, bwyty ac ystafell ffitrwydd. Mae hefyd yn cynnig gwasanaeth bws gwennol.