Arddangosfa Microfusnesau, BBaCh a Sefydliadau’r Trydydd Sector

Unwaith eto, bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal Arddangosfa Microfusnesau, BBaCh, a Sefydliadau’r Trydydd Sector yn ystod Procurex Cymru.

Mae’r arddangosfa’n cael ei chynnal ar y cyd â Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru (Cwmpas, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru). Bydd yn gyfle i brynwyr y sector cyhoeddus ddysgu am gyfleoedd newydd ac i drafod materion ymarferol sy’n ymwneud ag ehangu eu cadwyni cyflenwi i gynnwys mwy o fusnesau bach a microfusnesau, yn ogystal â mentrau cymdeithasol, elusennau a sefydliadau nid-er-elw yng Nghymru.

Datblygwyd yr Arddangosfa mewn ymateb i Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, sydd wedi’i chynllunio i ymgorffori arferion caffael cymdeithasol gyfrifol ar draws sector cyhoeddus Cymru. Mae’n ategu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn cydweithio â Deddf Caffael 2023 a Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024 i greu fframwaith unedig i gynnal caffael cyhoeddus moesegol, tryloyw ac effeithiol.

Bydd cynrychiolwyr o Busnes Cymru / Busnes Cymdeithasol Cymru wrth law i sgwrsio â gweithwyr caffael proffesiynol ac i roi cyngor i fusnesau bach a chyflenwyr trydydd sector sy’n awyddus i hyrwyddo eu cynhyrchion a’u gwasanaethau i sefydliadau’r sector cyhoeddus.

Bydd yr ardal nodwedd hon yn gyfle i brynwyr o’r sector cyhoeddus fynychu Procurex i archwilio cyfleoedd newydd a thrafod materion ymarferol ynghylch ehangu ar eu cadwyni cyflenwi, i gynnwys nifer uwch o fusnesau bach a micro, yn ogystal â mentrau cymdeithasol, elusennau a sefydliadau nid er elw yng Nghymru.

Datblygwyd y Parth Micro, BBaCh a Thrydydd Sector mewn ymateb i’r cyfleoedd sy’n bodoli yn sgil Deddf Caffael 2023. Mae’r Ddeddf yn annog prynwyr i agor cyfleoeodd caffael cyhoeddus i ymgeiswyr newydd, megis busnesau bach a mentrau cymdeithasol, er mwyn iddynt hwythau allu cystadlu ac ennill rhagor o gytundebau cyhoeddus.

Mae’r Ddeddf hefyd yn cefnogi’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 newydd. Mae’r ddeddfwriaeth hon, a neilltuwyd ar gyfer Cymru, yn mynnu bod prynwyr yn gwella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol eu hardaloedd, drwy gynnal gwaith caffael cyhoeddus mewn modd cymdeithasol gyfrifol.

Arddangoswyr yr ardal Microfusnesau, BBaCh a Thrydydd Sector

Bydd Arddangosfa 2025 yn cynnwys 10 sefydliad sydd wedi canfod ffyrdd dyfeisgar o gyflenwi cynnyrch neu nwyddau i brynwyr o’r sector cyhoeddus. Mae hyn wedi eu galluogi i fuddsoddi cymaint ag y gallent yn yr economi leol, i gefnogi’r economi sylfaenol, ac i greu gwerth cymdeithasol.